Cynghrair celfyddydau anabledd y DU yw #WeShallNotBeRemoved a ffurfiwyd fel ymateb brys i’r pandemig.
Mae #WeShallNotBeRemoved yn fforwm i eirioli, i ymgyrchu a chefnogi ymarferwyr a sefydliadau creadigol B/byddar, niwroamrywiol ac anabl trwy ac ar ôl Covid19. Nodau’r gynghrair yw:
- Sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y celfyddydau anabledd a chynhwysol yn y DU trwy’r pandemig ac ar ôl hynny
- Chwyddo lleisiau ymarferwyr creadigol B/byddar, niwroamrywiol ac anabl a sefydliadau celfyddydau anabledd ar adeg o argyfwng i’r celfyddydau ac i bobl anabl
Mae aelodaeth #WeShallNotBeRemoved yn rhad ac am ddim, yn agored i bob ymarferydd creadigol B/byddar, niwroamrywiol ac anabl a sefydliadau sy’n canolbwyntio ar anabledd sy’n gweithredu yn niwydiannau creadigol y DU. O fewn mis i ffurfio’r gynghrair mae wedi denu dros 400 o aelodau.
Cysylltwch ag unrhyw un o’n cysylltiadau cofrestru ar ein tudalen ‘Ymuno â Ni’, a byddwn yn eich gwahodd i ymuno â’n sianel Slack ar-lein.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster gyda’r broses cofrestru, anfonwch e-bost i weshallnotberemoved@gmail.com a byddwn yn ceisio i’ch helpu. Rydym yn cydnabod na fydd ein fforwm Slack yn hygyrch i bawb sy’n dymuno cymryd rhan ond rydym wrthi’n chwilio am ffyrdd i wella ein hygyrchedd.
Cysylltiadau Cofrestru
#WeShallNotBeRemoved
E-bost: weshallnotberemoved@gmail.com
Graeae Theatre
E-bost: info@graeae.org
Twitter: @graeae
Drake Music
E-bost: info@drakemusic.org
Twitter: @Drake_Music
Little Cog Theatre
E-bost: littlecog@rocketmail.com
Twitter: @LittleCog1
Still Ill OK
E-bost: ellie@stillill.uk
Twitter: @stillillok